
2020 CB2... Caryl Bryn a Carwyn Bach
Mae Caryl Bryn a Carwyn Bach yn edrych yn ol ar ddigwyddiadau mawr o 2020, ac yn sgwrsio am be mae nhw'n edrych ymlaen iddo yn 2021. Cathod, The Crown, Eurovision, TikTok, Brexit, COVID a llawer mwy!
25mins
28 Dec 2020
Rank #1

Arbed Arian... Melanie a Geraint
Yda chi angen tips ar syd i edrych ar ol eich arian? Ar syd i brynu y pethau iawn? Ar syd i gychwyn busnes eich hyn?! Gyda phawb yn gwario ac arian yn dynn, mae Geraint Iwan yn holi'r entrepreneur Melanie Carmen Owen am air o gyngor i arbed arian yn ein podlediad mis yma.
31mins
27 Nov 2020
Rank #2

Calan Gaeaf Iwan a Caryl
I ddathlu Calan Gaeaf, mae Caryl Bryn ac Iwan Pitts yn gwrando ar amryw o straeon ysbryd, a gwneud Tarot reading...
31mins
31 Oct 2020
Rank #3

Mali a Melanie
Yn ein podcast mis yma mae’r entrepreneur Melanie Carmen Owen a’r actores Mali Ann Rees yn trafod Mis Hanes Pobl Ddu.
29mins
17 Oct 2020
Rank #4

Sefyll Allan... Ifan Llywelyn a Cadi Dafydd
Ifan Llywelyn a Cadi Dafydd sydd yn trafod dod allan, materion LGTBQIA+, a pam bod Ifan ddim yn hoffi Pride. Gwyliwch y fideo yma - https://www.youtube.com/watch?v=VrHRovyUp6s
42mins
30 Aug 2020
Rank #5

Sesh Maes Barcar
Llynedd, mi wnaeth Llyr Jones (Pasta Hull) trefnu gig bythgofiadwy munud olaf ‘Sesh Maes Barcar’ yn ystod wythnos ‘steddfod yn Llanrwst pan wnaeth storm canslo Maes B. Yn y podlediad yma, mae Geraint Iwan yn holi Llyr ac Iwan Fôn am y digwyddiad yna (a mwy).
26mins
2 Aug 2020
Rank #6

Sefyll Allan... Al Parr a Lloyd Steele
Yn y podcast yma mae Al Parr a Lloyd Steele yn trafod dod allan, y symudiad Black Lives Matter, y gymuned LGBT a mis Pride. Hefyd yn cael ei drafod mae Grindr a Little Britain, sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. In this podcast, Al Parr and Lloyd Steele discuss coming out, the Black Lives Matter movement, the LGBT community and Pride month. Also debated is Grindr and Little Britain, which have been in the news recently.
38mins
28 Jun 2020
Rank #7

Iechyd Meddwl... Caryl a Meilir
Good Grief! Actor ydi Meilir Rhys - ac mae pawb wedi hen arfer ei weld ar sgrîn, ond ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Meilir a Caryl Bryn yn sgwrsio a thrafod galar, gorbryder... Ru Paul.
32mins
24 May 2020
Rank #8

Y GOFID Gareth a Rhys
Mae Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor wedi bod yn brysur yn ystod y lockdown yn creu cynnwys i Hansh. Dyma sgwrs rhwng y ddau wrth iddynt drafod be mae nhw wedi bod yn ei neud!
30mins
3 May 2020
Rank #9

Podcast Lŵp - Elis Derby yn holi Osian Candelas
Elis yn holi Osian am ei fywyd fel cerddor yn ystod COVID-19. Hefyd hanes Y Sesiwn Adre diweddar wnaeth Osian i Lŵp, ynghyd a'r gerddoriaeth a'r teledu y mae o'n eu mwynhau wrth hunan ynysu.
16mins
6 Apr 2020
Rank #10